top of page

Croeso i Blas Uchaf

Kerrie a Bleddyn ydyn ni, y chweched cenhedlaeth (a’r seithfed pe cyfrid ein bechgyn!) o ffermwyr defaid yma ym Mhlas Uchaf yn Llannefydd. Mae i Blas Uchaf arwyddocâd hanesyddol fel tÅ· pwysig yn yr ardal. Rydym yn falch o barhau i warchod y darn cudd hwn o dreftadaeth Gymreig, sef tÅ· rhestredig Gradd II* a gardd furiog restredig Gradd II. Mae'r ardd yn un o 23 safle yn unig yn sir Conwy sydd wedi'u cofrestru ar y Gofrestr Parciau a Gerddi.

 

Mae stori ein teulu yn y man hwn yn dechrau yn y 1800au pan ddaeth Henry Williams yn ffermwr tenant i deulu Wynne. Mae’r teulu Williams wedi cynnal a chadw’r tÅ· yn ofalus ers hynny, er i’r ardd ffurfiol gael ei cholli yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan gafodd ei hailddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd. Hefyd yn ystod y rhyfel, roedd carcharorion rhyfel o’r Eidal a’r Almaen, ynghyd â faciwîs, yn byw mewn ystafelloedd yn yr atig ym Mhlas Uchaf. Yn ddiweddarach, yn y 1960au a dechrau'r 1970au, croesawyd gwesteion gwely a brecwast i’r tÅ·, ond erbyn diwedd y 1970au, roedd ei gynnal wedi dod yn fwyfwy anodd. Bu grant gan CADW ym 1979 yn gymorth i achub y tÅ·, gan ariannu atgyweiriadau hanfodol i'r to a'r talcen sy'n wynebu'r de.

​

Yn fwy diweddar, rhwng 2019 a 2023, gwnaed gwaith adfer helaeth o dan gynllun Glastir Uwch, gan gynnwys adfer pwll y fferm, ailblannu’r coetiroedd a’r berllan hynafol ac adfer yr ardd furiog a’r teras ffosglawdd, dan arweiniad seiri maen lleol a CADW.



 

Fodd bynnag, mae stori Plas Uchaf yn hÅ·n fyth. Bu unwaith yn gartref i deulu’r Wynniaid o Gaerau, disgynyddion y llinach Marchweithian fonheddig, felly roedd y tÅ· unwaith yn le pwysig dros ben. Y perchennog mwyaf nodedig oedd Edward Wynne, a oedd yn Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1711. Roedd Edward Wynne, ac yn ddiweddarach ei fab, John Wynne hefyd yn berchen ar Nantclwyd y Dre yn Rhuthun. Mae’r ddau dÅ· yn meddu ar nodweddion pensaernïol tebyg i’w gilydd, megis gasebo yn yr ardd a phaneli mewnol addurniadol. Mae Nantclwyd y Dre bellach yn amgueddfa sydd wedi’i chadw’n wych, ac mae’n cynnwys canrifoedd o hanes a phensaernïaeth Cymreig. Byddai unrhyw un sy’n ymddiddori yn nhreftadaeth Cymru yn cael budd o ymweld â Nantclwyd y Dre.


 

Mae ymchwil diweddar gan haneswyr Darganfod Hen Dai Cymreig wedi datgelu hanes pellach ein cartref hynod, gan gynnwys ei gysylltiadau â theuluoedd dylanwadol Wynne a Goodman. Yn yr 17eg ganrif, priododd Meredith Wynne o Blas Uchaf â Jane Goodman, merch Edward Goodman, bargyfreithiwr o Rhuthun. Roedd y teulu Goodman yn deulu adnabyddus ac amlwg ac un o’u haelodau mwyaf nodedig oedd Gabriel Goodman, Deon San Steffan, a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o adfer eglwys golegol Rhuthun. Mae’r cysylltiadau hanesyddol hyn yn rhan fawr o hanes hir a hynod ddiddorol Plas Uchaf yng Nghymru.

 

Nawr, mae pennod newydd yn dechrau. Rydym yn croesawu gwesteion i Blas Uchaf, gan ddarparu lle iddynt aros yn ein cytiau bugail, lle gallwch ymgolli yn harddwch, hanes a threftadaeth y fferm hynod hon. Bydd cyfran o’r elw o’n llety yn 

mynd tuag at adfer yr ardd furiog, yr adeiladau fferm gwerinol a’r coetir hynafol, gan ddiogelu’r lle arbennig hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Gallwch ddilyn y gwaith o adfer Plas Uchaf ar ein cyfrif Instagram @plas.uchaf, lle rydyn ni wedi rhannu’r cynnydd a wnaed a’r hanes rydyn ni wedi’i ddarganfod - weithiau’n llythrennol, fel yr hen boteli o’r domen boteli neu’r papurau hanesyddol a ddarganfuwyd mewn corneli anghofiedig o’r tÅ·! Rydym hefyd yn rhannu cipolwg ar ein bywydau o ddydd i ddydd fel ffermwyr, gan gadw’r rhan arbennig hon o dreftadaeth Cymru yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Gallwch chi fod yn rhan o'n stori. Dewch i brofi Plas Uchaf drosoch eich hunain; edrychwn ymlaen at eich croesawu.

YMUNWCH Â'N RHESTR BOSTIO

Thank You for Joining Us!

© 2025 Plas Uchaf. Cedwir Pob Hawl

  • TikTok
  • Instagram
bottom of page